Mae S4C yn rhwystro tua 92,000 o bobol sy’n fyddar neu’n drwm eu clyw rhag gwylio’r sianel yn eu mamiaith drwy beidio darparu is-deitlau Cymraeg, yn ôl arbenigwr ar y gymuned fyddar.
Er bod S4C yn darparu is-deitlau uniaith Saesneg i raglenni fel Sgorio, mae cred fod y sianel yn “cau allan” sawl cynulleidfa wahanol trwy beidio â chynnig is-deitlau Cymraeg ar gyfer bob rhaglen.
Fe ddywedodd y Dr Wayne Morris, sy’n darlithio ym Mhrifysgol Caer ac yn arbenigo mewn iaith arwyddo, bod dyletswydd ar unig sianel genedlaethol Cymru i ddarparu’r gwasanaeth. Mae’r alwad hefyd wedi cael ei chefnogi gan elusen Action For Hearing Loss Cymru.
“Byddai’n braf gweld is-deitlau Cymraeg ar sianeli Saesneg hefyd, ond pa obaith sydd os nad yw S4C yn gwneud llawer drwy’r Gymraeg?” gofynnodd Dr Wayne Morris.
Dim ond 15 awr, o 115 awr, o raglenni sy’n cael eu darlledu gydag is-deitlau Cymraeg ar S4C bob wythnos, yn ôl y sianel.
Meddai Richard Williams, Cyfarwyddwr Action on Hearing Loss Cymru: “Ar y funud dydi Cymry Cymraeg â cholled clyw ddim yn cael mynediad llawn i raglenni S4C. Yn aml does dim dewis ond i wylio rhaglenni S4C gyda isdeitlo Saesneg, sydd yn ddryslyd iawn. Rydan ni yn teimlo fod S4C angen gwella ei gwasanaeth a sicrhau mynediad cyfartal i’w holl wylwyr.”
Pobol oedrannus
“Byddai sawl cynulleidfa wahanol yn medru cael budd o is-deitlau Cymraeg: pobol sy’n fyddar neu’n drwm eu clyw, dysgwyr a phobol sy’n rhugl yn y Gymraeg ond sydd weithiau eisiau gweld is-deitlau,” meddai Dr Wayne Morris.
“Mae elusen Action on Hearing Loss yn awgrymu bod 1/6 o bobol yn byw gyda phroblemau clyw. Yng Nghymru, mae’n golygu bod tua 92,000 o bobol (yn seiliedig ar gyfrifiad 2011) hefo trafferthion clywed.
“Mae’r rhan fwyaf o bobol fyddar yn oedrannus, ac mae gwylio teledu yn medru bod yn rhan bwysig o’u bywydau. Mae nifer fawr yn defnyddio llai a llai o’u hail iaith hefyd.
“Heb is-deitlau Cymraeg ar S4C, ni fydd gan ganran fawr o Gymry sydd â thrafferthion clywed fynediad i deledu o gwbl – ar yr union adeg yn eu bywydau lle eu bod nhw ei angen yn fwy nag erioed.”
Dysgwyr
Carfan arall o bobol sy’n colli allan ar gynnwys llawn S4C yn ôl Dr Wayne Morris yw dysgwyr.
“Mae darllen is-deitlau Saesneg yn fwy aml na pheidio yn golygu bod dysgwyr yn stopio gwrando ar y Gymraeg a ddim ond yn darllen y geiriau. Nid yw hynny’n helpu o gwbl wrth geisio dysgu’r iaith.
“Rwy’n ddigon balch bod is-deitlau Saesneg yn cael eu darlledu – mewn rhai aelwydydd mae’n golygu bod yr holl deulu yn medru gwylio rhaglenni S4C gyda’i gilydd os nad yw pawb yn siarad Cymraeg – ond rwy’n galw ar S4C i wneud yn siŵr bod cynifer o’i wylwyr ac sy’n bosib yn medru gwylio.”
Mynediad cynnwys yn ‘bwysig’
Mae S4C wedi ymateb trwy ddweud bod sicrhau mynediad i gynnwys S4C yn “bwysig” i’r sianel a bod is-deitlo – yn y Gymraeg a’r Saesneg – yn rhan o hyn.
Dywedodd Rachel Evans, Dirprwy Gyfarwyddwr Cynnwys a Darlledu S4C: “Mae tua 15 awr o raglenni’r wythnos yn cynnwys isdeitlau Cymraeg – sy’n cynnwys tua 5 awr o gynnwys newydd ar gyfartaledd bob wythnos.
“Mae hyn yn cynnwys rhai o raglenni mwyaf poblogaidd S4C; Cara Fi; Pobol y Cwm; Rownd a Rownd, nifer o raglenni dogfen a rhaglenni i ddysgwyr sy’n rhan o wasanaeth Dal Ati ar ddydd Sul.
“Yn anffodus, does dim modd darparu’r gwasanaeth ar raglenni byw ar hyn o bryd gan nad yw’r dechnoleg ar gael i gyflawni hynny. Ond rydym yn eiddgar i newid hyn o fewn cyfyngiadau cyllidebol, ac mae S4C yn cefnogi gwaith Canolfan Bedwyr ym Mhrifysgol Bangor i ddatblygu technoleg adnabod lleferydd yn y Gymraeg fydd yn anelu at oresgyn y broblem hon.”
Bydd adroddiad yn cael ei ryddhau can Brifysgol Abertawe, sy’n amlygu’r galw am fwy o is-deitlo yn y Gymraeg, yr wythnos nesaf.
Stori: Gwenllian Elias