Ers blynyddoedd bellach, hysbyseb Coca-Cola yw’r arwydd cyntaf fod y Nadolig ar y gorwel a diolch i ymgyrch ddiweddaraf y cwmni, fe fydd cyfle i weld y tryc eiconig wrth iddo deithio i Gymru fis nesaf.

‘Holidays are Coming’ yw un o’r sloganau enwocaf ar y teledu bellach, ac mae amryw hysbysebion y cwmni wedi plesio teuluoedd yng ngwledydd Prydain ers 1995.

Cafodd y tryciau – neu ‘carafanau Nadoligaidd’ – eu creu gan yr asiantaeth W.B. Doner, a’u datblygu gan Industrial Light and Magic, y cwmni fu’n gyfrifol am effeithiau arbennig ffilmiau megis cyfres Star Wars a Raiders of the Lost Ark.

Ar ochr y tryciau, mae darluniau amrywiol o Siôn Corn gan yr arlunydd Haddon Sundblom.

Mae hysbysebion y cwmni i’w gweld ledled y byd, o’r Unol Daleithiau i Singapore.

Cafodd hysbyseb 1998 ei ddarlledu mewn mwy na 100 o wledydd, ac mae’n un o hysbysebion enwocaf y cwmni hyd heddiw.

Yn 1999, cafodd yr hysbyseb ei ffilmio yng Nghanada yn yr eira a’i ddatblygu i roi’r argraff bod cyfres o dryciau yn dilyn ei gilydd – er mai un tryc yn unig a gafodd ei ddefnyddio!

Bydd y tryc yn cyrraedd Caernarfon ar Ragfyr 4, ac fe fydd modd i ymwelwyr ei weld yn Y Maes o 12yp-8yh.

O Gaernarfon, fe fydd y tryc yn symud i Sgwar y Frenhines yn Wrecsam ar Ragfyr 5, lle bydd modd ei weld o 12yp-8yh unwaith eto.

Ar Ragfyr 6, fe fydd modd ei weld yn Y Drenewydd o 12yp-8yh.

Wrth symud i’r de, bydd y tryc i’w weld ar Ffordd y Dywysoges, Abertawe ar Ragfyr 7 o 11yb-7yh ac fe fydd yn ffarwelio â Chymru yng Nghaerdydd yng Nghanolfan Siopa Dewi Sant ar Ragfyr 9 o 1yp-9yh.