Craig Charles
Mae’r actor Craig Charles wedi gadael y rhaglen deledu realiti ‘I’m A Celebrity…Get Me Out Of Here!’ yn dilyn marwolaeth sydyn ei frawd.

Doedd yr actor ddim wedi ymddangos yn y rhaglen neithiwr wedi iddo dderbyn y newyddion am ei frawd, Dean, oedd wedi cael trawiad ar y galon yn ei gartref yn Sbaen.

Cyhoeddodd y cyflwynwyr Ant a Dec ar y rhaglen neithiwr na fyddai’r actor yn cael ei ystyried ar gyfer y treialon bwyd nesaf.

Mae’r actor yn fwyaf adnabyddus am chwarae’r cymeriad Lloyd yn yr opera sebon Coronation Street, yn ogystal â Lister yn y gyfres gomedi ‘Red Dwarf’.

Charles, 50, yw’r ail berson i adael y jyngl ar ol i seren The Only Way Is Essex, Gemma Collins, gyhoeddi ei bod hi am roi’r gorau iddi wedi tri diwrnod yn unig.

Fe fydd y cyn AS Edwina Currie a chyn gystadleuydd yr X Factor Jake Quickenden yn ymuno a gweddill y criw yn y jyngl yn Awstralia heno.