Steve McQueen
Mae cefnogaeth y canwr Paul Robeson i lowyr o Gymru wedi ysbrydoli’r cyfarwyddwr Steve McQueen i greu ffilm am yr hanes.

Roedd y canwr eiconig o’r Unol Daleithiau’n ymwelydd cyson â chymoedd glofaol Cymru, ac fe ymddangosodd yn y ffilm ‘The Proud Valley’ am löwr croenddu Americanaidd sy’n dod i Gymru i weithio.

Cafodd McQueen – oedd wedi ennill tair Oscar am y ffilm ‘12 Years A Slave’ – ei ysbrydoli i greu’r ffilm wedi iddo ddarllen am gyswllt Robeson â’r glowyr.

Darllenodd y cyfarwyddwr o Lundain yr hanes mewn erthygl papur newydd pan oedd e’n ddisgybl yn yr ysgol.

Datgelodd McQueen ei fod e wedi trafod y prosiect â’r canwr Harry Belafonte, oedd yn gyfaill agos i Robeson hyd nes ei farwolaeth yn 1976.

Mae McQueen hefyd yn gweithio ar ddrama i’r BBC sy’n adrodd hanes pobol groenddu yn Llundain.