Tony a Jan Jenkinson Llun: BBC
Mae cwpl a gafodd ddirwy o £100 gan westy ar ôl iddyn nhw roi adolygiad gwael ar wefan Trip Advisor wedi clywed y bydd y gwesty yn ad-dalu’r arian yn ol iddyn nhw.
Dywedodd Tony a Jan Jenkinson fod Gwesty Broadway yn Blackpool yn “frwnt” wedi iddyn nhw dalu £36 am ystafell ddwbl am un noson.
Daethon nhw adref a darganfod fod £100 wedi cael ei dynnu oddi ar eu cerdyn credyd ychydig ddiwrnodau’n ddiweddarach.
Cawson nhw wybod gan y gwesty eu bod nhw’n codi £100 ar gwsmeriaid sy’n rhoi adolygiadau negyddol iddyn nhw ar y we.
Bu’r pâr yn ceisio hawlio’u harian yn ôl gan y cwmni cerdyn credyd, ac maen nhw wedi cwyno wrth swyddogion safonau masnach.
Dywedodd llefarydd ar ran safonau masnach yng ngogledd Lloegr ei fod o’r farn fod y gwesty wedi ymddwyn “yn groes i arfer da”.
Yn ol Cyngor Blackpool mae perchnogion y gwesty yn bwriadu sgrapio’r polisi.
Dywedodd llefarydd ar ran Trip Advisor ei bod “yn groes i ysbryd a pholisïau” y cwmni i berchnogion busnesau geisio manteisio ar adolygiadau negyddol.