Nicola Sturgeon
Bydd Nicola Sturgeon yn dod yn Brif Weinidog yr Alban yn swyddogol heddiw, yn dilyn pleidlais yn Holyrood.

Bydd arweinydd newydd plaid yr SNP yn disodli Alex Salmond, oedd wedi cyhoeddi ei fod am ymddiswyddo yn dilyn canlyniad siomedig yn y refferendwm annibyniaeth ym mis Medi.

Ymddiswyddodd Salmond yn swyddogol ddoe, gan ddweud y byddai Nicola Sturgeon – ei ddirprwy am saith mlynedd – yn olynydd “rhagorol”.

Daeth Sturgeon yn arweinydd ei phlaid yn swyddogol yng nghynhadledd y blaid yn Perth dros y penwythnos.

Yn ystod y gynhadledd, dywedodd: “Mae’n fraint ac rwy’n diolch i chi am ymddiried ynof fi.”

Ychwanegodd ei bod hi am uno’r wlad.

“Rwy am uno’r wlad hon mewn ymdrechion cenedlaethol i roi’r cyfle gorau i bob plentyn – beth bynnag am eu cefndir.”

Wrth ffarwelio â Holyrood, dywedodd Alex Salmond: “Mae unrhyw ymadawiad yn drist i raddau ond yn yr achos hwn, mae’n cael ei ddisodli gan ymdeimlad o optimistiaeth a hyder.

“Hyder y cawn ni Brif Weinidog newydd rhagorol.

“Hyder yn statws a gallu’r siambr yma ac yn bennaf oll, hyder yn noethineb, doniau a photensial pobol yr Alban.”

Bydd Aelodau Seneddol yr Alban yn pleidleisio heddiw cyn derbyn Nicola Sturgeon i’w swydd yn ffurfiol, ac mi fydd hi’n tyngu llw yng Nghaeredin yfory.

Mae Alex Salmond yn parhau’n Aelod Seneddol tros Ddwyrain Sir Aberdeen o dan yr arweinydd newydd.