Mae menter iaith yng Ngwynedd yn lansio strategaeth iaith heddiw, sy’n anelu at gael 5% yn fwy o bobol yn siarad Cymraeg yn y sir erbyn 2021.

Yn ôl Cyfrifiad 2011 mae 65% o drigolion y sir yn medru’r iaith, sy’n ostyngiad o 4% ar ffigwr 2001 – o 77,846 i 77,000.
Yn ystod y cyfnod hwnnw gwelwyd cynnydd o 5,000 ym mhoblogaeth y sir.

Mae Hunaniaith, corff sy’n gweithredu fel menter iaith yng Ngwynedd ac yn cael £83,000 gan Lywodraeth Cymru, yn lansio’r strategaeth i geisio gwrthdroi’r gwymp.

‘Tasg enfawr’

Nod y strategaeth yw cryfhau’r Gymraeg fel iaith ar yr aelwyd, yn yr ysgol, yn y gymuned ac yn y gweithle ac yn gyffredinol, a cheisio cael pobol i ddefnyddio’r Gymraeg fwy yn eu bywydau beunyddiol.
Yn ogystal, bydd pwyslais arbennig ar weithio gyda grwpiau cymunedol ar lawr gwlad i hybu’r defnydd o’r Gymraeg.
“Nid gwaith hawdd yw cynllunio ieithyddol yn y tymor hir,” meddai’r canwr Dafydd Iwan, sy’n gadeirydd grŵp strategol Hunaniaith.

“Credwn, ar sail ymchwil trylwyr a wnaed i’r hyn sydd wedi bod yn digwydd yng nghymunedau, ysgolion a gweithleoedd Gwynedd dros y blynyddoedd diwethaf y bydd y Strategaeth Iaith newydd hon yn troi’r llanw o blaid y Gymraeg.”

‘Datblygu tai’

Wrth ymateb i’r strategaeth, dywedodd Menna Machreth, cadeirydd Cymdeithas yr Iaith yng Ngwynedd ac Ynys Môn:
“Er yn croesawu cyhoeddi’r Strategaeth, yn arbennig y Meysydd Strategol o geisio gweld defnydd y Gymraeg yn cynyddu ymysg plant a phobol ifanc, rydym yn bryderus y bydd polisïau cynllunio’r Cyngor yn tanseilio’r nod o gynyddu nifer y siaradwyr Cymraeg o 5%.

“Credwn fod cysylltiad amlwg yn bodoli rhwng cynllunio anghynaladwy a dirywiad ieithyddol mewn cymunedau.

“Yn fuan yn y Flwyddyn Newydd mi fydd y cyngor yn mynd rhagddi i gyhoeddi rhestr o diroedd fydd yn agored i ddatblygiadau tai yn ystod y 15 mlynedd nesaf. Er mwyn i unrhyw strategaeth weithio, ac yn bwysicach iddo lwyddo, mae’n hanfodol bod ystyriaeth lawn yn cael ei osod yn y strategaeth iaith er mwyn ceisio deall effaith datblygu tai ar y Gymraeg.

“Mae’n ddisynnwyr i ystyried ‘dyfodol y Gymraeg’ mewn un bocs, heb ystyried polisiau eraill a fydd yn cael effaith anghynaladwy ar y Gymraeg.”

Ychwanegodd llefarydd ar ran Hunaniaith bod y targed yn “heriol” a’r bwriad i gael 5% yn fwy yn siarad Cymraeg yng Ngwynedd erbyn 2021 yn “dasg enfawr”.