Mae’r Post Brenhinol wedi cyhoeddi gostyngiad yn ei elw ar gyfer yr hanner blwyddyn ddiwethaf.

Roedd cynnydd o 2% yn y parseli a gafodd eu dosbarthu hyd at ddiwedd mis Medi, ond mae’r Post Brenhinol yn dweud bod eu helw i lawr ers i gwmni Amazon benderfynu dosbarthu’n annibynnol.

Gwnaeth y Post Brenhinol elw cyn treth o £218 miliwn yn ystod y cyfnod o chwe mis, o’i gymharu â £233 miliwn y flwyddyn gynt.

Roedd gostyngiad o 3% yn nifer y llythyron a gafodd eu dosbarthu, oedd yn well na’r disgwyl yn sgil gwelliant yn yr economi.

Cododd refeniw’r Post Brenhinol o 1% yn sgil llythyron i £2.24 biliwn, a hynny o ganlyniad i gynnydd mewn prisiau a chynnydd mewn elw yn sgil etholiadau.