Mae ymddygiad 10 swyddog heddlu fu’n delio a chwynion am gam-drin plant yn rhywiol yn ardal Rotherham yn destun ymchwiliad gan Gomisiwn Annibynnol yr Heddlu (IPCC).
Fe ddaeth i’r amlwg ym mis Awst bod tua 1,400 o blant wedi cael eu hecsbloetio yn rhywiol yn y dref yn Ne Efrog dros gyfnod o 16 mlynedd.
Mewn adroddiad, fe gafodd Heddlu De Swydd Efrog a Chyngor Rotherham eu beirniadu ynglŷn â’r ffordd y gwnaethon nhw ddelio a’r cwynion gan ferched ifanc oedd yn dweud eu bod nhw wedi cael eu cam-drin gan gangiau o ddynion o dras Asiaidd yn bennaf.
Dywedodd awdur yr adroddiad bod uwch swyddogion yn debygol o fod yn gwybod beth oedd yn mynd ymlaen, ond eu bod nhw wedi methu a gweithredu.
Ymchwiliad
Mae’r 10 swyddog sydd dan ymchwiliad yn rhan o grŵp o 13 o bobol gafodd eu cyfeirio ar yr IPCC. Ni fydd y tri swyddog arall yn wynebu ymchwiliad ar hyn o bryd.
“Mae’r pryder a ddangoswyd gan y cyhoedd ynglŷn â’r bennod yma a’i effaith ar hyder yn heddlu yn golygu ei bod yn bwysig iawn bod ymchwiliad llawn annibynnol yn cael ei gynnal. Bydd yn sefydlu sut y gwnaeth Heddlu De Swydd Efrog ddelio a’r cwynion.”
Mae Heddlu De Swydd Efrog wedi dweud y bydden nhw’n cydweithio’n llawn a’r ymchwiliad.