Jane Hutt
Fe fydd Llywodraeth Cymru yn gwneud “buddsoddiad arloesol” ac yn rhoi £500 miliwn i Raglen Ysgolion yr 21ain Ganrif yn 2019.
Y bwriad yw gwella cyflwr ysgolion er mwyn darparu addysg o’r radd flaenaf i holl ddisgyblion Cymru, yn ôl y Llywodraeth.
Cafodd y cyllid ei gyhoeddi yn ystod dadl ar Gyllideb Ddrafft y Llywodraeth ar gyfer 2015-16, lle dywedodd y Gweinidog Cyllid a Busnes Jane Hutt y byddai’r arian yn cael ei roi tuag at gynllun sydd eisoes ar waith yng Nghymru.
“Mae hwn yn fuddsoddiad sylweddol sy’n dangos ein bod ni fel Llywodraeth yn ymrwymedig i gynnig yr amgylchedd dysgu gorau posibl i’n pobol ifanc,” meddai Jane Hutt.
Amgylchiadau dysgu
Ychwanegodd: “Byddwn yn parhau i weithio gydag awdurdodau lleol a Chymdeithas Lywodraeth Leol Cymru i sicrhau ein bod yn cyflawni’r canlyniadau rydyn ni eisiau eu gweld – sef parhau i wella ansawdd amgylcheddau dysgu gan ddefnyddio’n hasedau yn fwyfwy gofalus ac effeithiol.”
Dywedodd y Gweinidog Addysg Huw Lewis mai lles y disgyblion fydd wrth wraidd y gwario:
“Mae ein Rhaglen Ysgolion yr 21ain Ganrif yn cynnig manteision gwirioneddol i ddysgwyr ym mhob cwr o Gymru a bydd y £500m ychwanegol hwn yn ein galluogi i wneud mwy fyth i wella ysgolion.
“Mae’r fath fuddsoddiad sylweddol yn y sefyllfa ariannol heriol sydd ohoni yn dangos ein hymrwymiad i gynnig yr amgylchedd cywir a’r safon orau bosibl o addysg i’n dysgwyr, a rhoi eu lles wrth wraidd ein penderfyniadau.”