Charles Napier
Mae Charles Napier, hanner brawd yr AS Ceidwadol John Whittingdale, wedi pledio’n euog yn Llys y Goron Southwark yn Llundain i 29 o droseddau rhyw hanesyddol yn erbyn 21 o fechgyn.

Fe wnaeth Charles Napier, 67, gyfaddef 28 cyhuddiad o ymosod yn anweddus ac un cyhuddiad o gyflawni trosedd anwedduster ar blentyn.

Mae Napier, sy’n dod o Newland yn Sherborne, Dorset, wedi cyfaddef bod yr ymosodiadau wedi digwydd rhwng Medi 1967 ac Ebrill 1972.

Cafodd Napier ei gadw yn y ddalfa a bydd yn cael ei ddedfrydu ar 23 Rhagfyr.