Mae ymchwiliad ar y gweill i ymddygiad swyddogion Heddlu Gwent ar ôl i ddynes gael ei thrywanu gan ei chyn-gariad oriau yn unig wedi iddi roi gwybod i’r heddlu ei fod yn ceisio cysylltu â hi.

Roedd Martin Bowen wedi ei wahardd rhag cysylltu â’r ddynes oedd yn byw yng Nghasnewydd ond bu’n anfon negeseuon testun ati.

Mae Comisiwn Annibynnol Cwynion yr Heddlu (IPCC) yn ystyried pam na aeth swyddogion i gartre’r ddynes yn dilyn galwad ganddi ar 19 Gorffennaf, ac maen nhw hefyd yn edrych ar ymateb Heddlu Gwent i ddigwyddiadau eraill rhwng y ddau dros gyfnod o ddwy flynedd.

Mae’r IPCC wedi hysbysu un rhingyll o Heddlu Gwent yn ogystal â phedwar cwnstabl, a dau weithiwr o’r ganolfan alwadau eu bod nhw’n destun ymchwiliad.

Ym mis Medi, cafodd Martin Bowen ei garcharu am wyth mlynedd ar ôl cyfadde’ achosi niwed corfforol difrifol.

“Mae hyn wedi bod yn amser trawmatig iawn i’r ddynes a’i theulu. Bydd yr IPCC yn edrych ar sut y gwnaeth Heddlu Gwent ddelio a sawl digwyddiad cysylltiedig rhwng y cwpl sy’n dyddio yn ôl i 2012, a’u hymateb ar ddiwrnod yr ymosodiad.”

Dywed Heddlu Gwent eu bod yn cydweithio’n llawn gyda’r ymchwiliad.