Y ty lle bu farw'r tri phlentyn
Roedd mam yn dioddef o iselder “llethol” gan yr her enfawr o ofalu am ei thri phlentyn anabl cyn iddi eu mygu yn eu cwsg a cheisio lladd ei hun, meddai uwch farnwr heddiw.
Roedd Tania Clarence, 43, wedi pledio’n euog i ddynladdiad ar y sail nad oedd yn ei iawn bwyll pan laddodd Olivia, pedwar, ac efeilliaid tair blwydd oed, Ben a Max, yng nghartref y teulu yn New Malden, de-orllewin Llundain, yn ystod gwyliau’r Pasg eleni.
Daethpwyd o hyd i’r plant, oedd yn dioddef o gyflwr MSA math-2, sy’n gwanhau’r cyhyrau, yn farw yn eu gwelyau gyda’u teganau wedi eu gosod o amgylch eu pennau.
Y diwrnod cyn y llofruddiaethau, roedd gŵr Tania Clarence wedi mynd a’u merch wyth mlwydd oed, sydd ddim yn anabl, ar wyliau i Dde Affrica gan ei gadael ar ei phen ei hun gyda’r plant eraill, ar ôl iddi roi diwrnod o wyliau i’r nani.
Wrth ei dedfrydu i orchymyn ysbyty heddiw, dywedodd Mr Ustus Sweeney fod tystiolaeth “clir ac argyhoeddiadol” ei bod yn dioddef o “iselder mawr”.
Gan ddyfynnu seiciatrydd, dywedodd: “Os na fyddech chi wedi bod yn dioddef o salwch meddwl ar y pryd, ni fyddech wedi lladd eich plant.”
Dywedodd fod y fam i bedwar wedi cael ei “llethu” gan yr her enfawr o ymdopi gyda’i phlant ac yn dyst i ymyriadau meddygol oedd hi’n teimlo oedd yn ddiangen.
Wrth osod y gorchymyn ysbyty, dywedodd Mr Ustus Sweeney wrth Clarence na fyddai’n cael ei rhyddhau nes iddi wella o’i salwch.