Kirsty Williams
Mae Democratiaid Rhyddfrydol Cymru yn galw ar Lywodraeth Cymru i benodi Gweinidog gyda chyfrifoldeb penodol am faterion trawsrywedd.

Maen nhw hefyd eisiau i’r Gweinidog hynny adrodd yn ôl i’r Cynulliad o fewn chwe mis gyda chynllun gweithredu i fynd i’r afael â’r pryderon sy’n cael eu codi gan bobl drawsrywiol.

Daw’r galwad wrth i Ddemocratiaid Rhyddfrydol Cymru gyhoeddi y byddan nhw’n nodi Wythnos Ymwybyddiaeth Trawsrywedd ddydd Mercher drwy arwain dadl yn y Cynulliad ar faterion sy’n wynebu pobl drawsrywiol yng Nghymru.

Credir mai dyma’r tro cyntaf i’r pwnc hwn gael ei drafod yn fanwl gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru.

‘Problemau sylweddol’

Amcangyfrifir bod dros 31,300 o bobl drawsrywiol yng Nghymru, ond meddai’r Democratiaid Rhyddfrydol eu bod yn wynebu problemau sylweddol sy’n ymwneud â gofal iechyd digonol a darpariaeth tai.

Bydd Aelodau Cynulliad y Democratiaid Rhyddfrydol yn codi’r materion hyn, yn ogystal â beth ellir ei wneud i godi ymwybyddiaeth o faterion cydraddoldeb rhywiol ymhellach er mwyn lleihau stigma.

Dywedodd Kirsty Williams, arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol yng Nghymru ei bod hi’n hen bryd cael y ddadl oherwydd bod “pobl drawsrywiol yn destun cymaint o ragfarn trwy gydol eu bywydau.”

Meddai Kirsty Williams AC: “Mae Llywodraeth Lafur Cymru yn honni nad oes digon o alw am glinig rhywiau yng Nghymru, ond yn gwneud hynny heb unrhyw sail gadarn am yr honiad.

“O gofio bod yr amcangyfrifon yn rhoi nifer y bobl drawsrywiol yng Nghymru yn y miloedd, mae’n syndod meddwl nad oes un clinig rhyw yng Nghymru.

“Mae hwn yn fater arall lle mae Cymru yn colli tir o’i chymharu â gweddill y Deyrnas Unedig. Rwy’n mawr obeithio y bydd Llywodraeth Cymru yn cymryd y cyfle i weithredu a rhoi’r gwasanaethau hyn ar waith cyn gynted ag y bo modd. “