Yr arolwg barn sy'n dangos y gefnogaeth i'r SNP
Mae’r SNP bellach hefo’r fantais fwyaf mewn hanes tros y blaid Lafur, y Ceidwadwr a’r Democratiaid Rhyddfrydol yn yr Alban, yn ôl arolwg barn a gyhoeddwyd heddiw.

Yn Holyrood ac yn San Steffan, roedd 45.8% o bobol yn cefnogi plaid genedlaethol yr Alban, yr SNP cyn yr etholiad cyffredinol nesaf – o’i gymharu â 23.9% i Lafur, 16.7% i’r Ceidwadwyr a 6.1% i’r Democratiaid Rhyddfrydol.

Yn ôl y Daily Record, mae’r argyfwng llawn sy’n wynebu arweinydd Llafur, Ed Miliband, a’i blaid wedi cael ei amlygu gan yr arolwg yma. Dim ond 2% o bleidleiswyr Llafur oedd yn ymddiried yn gyfan gwbl yn Ed Miliband.

Yn y cyfamser, mae’r gefnogaeth i’r SNP wedi tyfu ar raddfa eithriadol o gyflym yn dilyn y refferendwm ar annibyniaeth i’r Alban. Ac fe all y blaid gynyddu nifer eu seddi o chwech yn 2010 i 52 y flwyddyn nesaf, yn ôl y Daily Record.

Byddai canlyniad o’r fath yn ei gwneud bron yn amhosib i Lafur drechu’r Ceidwadwyr ar draws Prydain a disodli David Cameron o Rif 10.

Mae’r arolwg yn cael ei gyhoeddi ar y diwrnod mae’r Prif Weinidog Alex Salmond yn ymddiswyddo.

Ymddiriedaeth

Yn ôl yr arolwg, roedd 59% o’r rhai a holwyd yn dweud nad oedden nhw’n ymddiried yn llawn yn Ed Miliband, 62% yn David Cameron a 63% yn Nick Clegg.

Yn ogystal, nid oedd 48% yn ymddiried yn llawn yn Alex Salmond, a 41% ym Mhrif Weinidog newydd yr Alban, Nicola Sturgeon.

“Gyda’r rhan fwyaf o bobol yn dweud nad ydyn nhw’n ymddiried yn arweinwyr y prif bleidiau, mae’r arolwg yma yn drychineb i dair plaid San Steffan,” meddai Angus Robertson, arweinydd yr SNP yn San Steffan.