Alex Salmond
Fe fydd Alex Salmond yn ymddiswyddo fel Prif Weinidog yr Alban heddiw ac yn braenaru’r tir ar gyfer arweinydd newydd yr SNP, Nicola Sturgeon.

Yn ei gyfraniad olaf fel Prif Weinidog yn Holyrood, fyd fydd Alex Salmond yn cyfarch ASau yr Alban y prynhawn yma cyn derbyn cwestiynau.

Ar ôl dod o fewn trwch blewyn at ennill y refferendwm annibyniaeth ym mis Medi, fe gyhoeddodd ychydig o oriau wedi’r canlyniad ei fod yn bwriadu ymddiswyddo.

Ei ddirprwy, Nicola Sturgeon fydd yn camu i’w esgidiau fel Prif Weinidog y wlad.

Mae Salmond yn parhau fel AS dros Ddwyrain Aberdeen, ac mae darogan y bydd yn sefyll am sedd yn Nhŷ’r Cyffredin yn yr etholiad cyffredinol nesaf ym mis Mai.

SNP ar y blaen

Mae arolwg barn a gyhoeddwyd heddiw ynglŷn â’r bwriad i bleidleisio yn dangos bod yr SNP ar y blaen yn Holyrood yn ogystal â San Steffan.

Dangosodd yr arolwg gan y Daily Record bod 45.8%, yn cefnogi’r blaid – o’i gymharu â 23.9% oedd yn cefnogi Llafur, 16.7% i’r Ceidwadwyr a 6.1% i’r Democratiaid Rhyddfrydol.

Gyrfa Alex Salmond

• Ymunodd Alex Salmond â’r SNP yn 1973 pan oedd yn fyfyriwr ym Mhrifysgol St Andrews, lle astudiodd economeg a hanes.
• Roedd yn flaenllaw yn ymgyrch nifer fach o aelodau’r blaid a wrthdystiodd yn erbyn yr arweinwyr – ymgyrch a arweiniodd at ei ddiarddel o’r blaid am gyfnod.
• Cafodd ei ethol yn Aelod Seneddol dros Banff a Buchan yn 1987, a chael ei wahardd o Dŷ’r Cyffredin am wythnos yn 1988 am darfu ar araith gyllideb y Canghellor.
• Daeth yn arweinydd yr SNP yn 1990 a chynyddu nifer ei haelodau seneddol yn 1997 i chwech.
• Wrth i’r Blaid Lafur ddod i rym, cafodd refferendwm ei drefnu i sicrhau Senedd i’r Alban, ac fe ddaeth Salmond yn Aelod Seneddol dros Banff a Buchan yn Holyrood yn 1999.
• Yr SNP oedd yr wrthblaid gyda 35 o seddi ond, fe roddodd Alex Salmond y gorau i’r arweinyddiaeth am gyfnod yn 2000, cyn dod yn ôl bedair blynedd yn ddiweddarach.
• Daeth yn Brif Weinidog yn 2007 gan arwain llywodraeth leiafrifol a dod yn agos at ymddiswyddo yn 2009 ar ôl i’r Senedd wrthod cyllideb ei blaid.
• Ond pan gafodd yr SNP fwyafrif clir annisgwyl yn 2011, fe gafodd y cyfle i gynnig refferendwm ar annibyniaeth.