Mae Eglwys Loegr wedi cymeradwyo deddfwriaeth o blaid ordeinio merched yn esgobion yn swyddogol heddiw.

Dim ond dwy flynedd yn ôl, roedd aelodau’r eglwys wedi pleidleisio yn erbyn yr un cynnig o chwe phleidlais.

Ond cafodd y ddeddfwriaeth ei chymeradwyo gan y mwyafrif llethol ym mis Gorffennaf.

Daw 20 mlynedd ar ôl i’r ferch gyntaf yn Eglwys Loegr gael ei hordeinio yn offeiriad.

Mae corff llywodraethol yr Eglwys yng Nghymru eisoes wedi penderfynu caniatáu ordeinio merched yn esgobion mewn pleidlais ym mis Medi.

Mae disgwyl y bydd y ferch gyntaf yn cael ei hordeinio yn esgob yn Eglwys Loegr erbyn y flwyddyn nesaf.