Stephen Crabb
Mae Ysgrifennydd Cymru, Stephen Crabb, wedi galw ar y pleidiau gwleidyddol i “roi’r gorau i ddadlau” tros ddatganoli er mwyn canolbwyntio ar hybu economi Cymru.
Roedd Stephen Crabb yn cyflwyno araith i’r Sefydliad Materion Cymreig ym Mae Caerdydd, ac fe ddywedodd hefyd ei fod yn bwriadu cyhoeddi’r camau nesaf ynglŷn â datganoli i Gymru erbyn Dydd Gwyl Dewi 2015.
Ar ôl pymtheg mlynedd o drafod datganoli, fe ddylai gwleidyddion Cymreig ddechrau canolbwyntio mwy ar wasanaethau cyhoeddus a’r economi, meddai Stephen Crabb.
Yn ei araith, dywedodd ei fod am weld “Llywodraeth Cymru yn fwy atebol” a phwyslais ar hybu economi Cymru.
‘Cyfle unigryw’
“Fe fuaswn yn hoffi defnyddio’r cyfle unigryw hyn yn hanes ein cenedl i edrych yn gadarnhaol ar sut i sicrhau’r cytundeb orau ar gyfer datganoli i Gymru,” meddai Stephen Crabb yng Nghaerdydd.
“Beth am i ni roi stop ar ddadlau tros ddatganoli a chanolbwyntio ar roi economi Cymru ar waith.”
Yn dilyn refferendwm yr Alban, cafwyd addewid gan Lywodraeth Prydain ym mis Tachwedd i gyflwyno rhagor o bwerau i Gymru.
Mae Mesur Cymru, sy’n cynnwys pwerau trethi newydd, wrthi’n mynd trwy’r Senedd.