Y Gweinidog Gwasanaethau Cyhoeddus, Leighton Andrews
Mae Cyngor Sir Ddinbych ynghanol trafodaethau ynglŷn ag uno’n wirfoddol hefo Cyngor Sir Conwy.
Fe fydd yr un pwnc yn cael ei drafod mewn cyfarfod gan swyddogion yng Nghonwy yn ddiweddarach y prynhawn yma hefyd.
Mae Cyngor Conwy eisoes wedi cyhoeddi eu bod nhw’n ystyried y posibilrwydd o uno hefo Dinbych ond ym mis Chwefror, fe wrthododd swyddogion yn Ninbych y syniad.
Ar y pryd, dywedodd Prif Weithredwr Sir Ddinbych, Mohammed Mehmet: “Credwn nad yw cydweithio gwirfoddol ar raddfa fawr wedi gweithio yn y gorffennol ac nid oes hyder y bydd yn gweithio yn y dyfodol”.
Comisiwn Williams
Mae Gweinidog Gwasanaethau Cyhoeddus newydd Llywodraeth Cymru, Leighton Andrews yn awyddus i weld cynghorau’n uno fel rhan o argymhellion Comisiwn Williams.
Yn ôl Comisiwn Williams, mae angen lleihau nifer y cynghorau yng Nghymru o 22 i naill ai 10,11 neu 12.
Gallai unrhyw gynghorau cyfun newydd gael eu sefydlu erbyn 2018.