Mae ymchwiliad llofruddiaeth ar y gweil wedi ymosodiad ar ddyn yn y stryd ym Manceinion.
Bu farw’r dyn 20 oed yn yr ysbyty wedi i ddau ddyn ymosod arno yn Gorton ddoe.
Fe gafodd yr heddu eu galw toc wedi 10.15yb, gan ddod o hyd i’r dyn ar lawr. Fe gafodd ei gludo i ysbyty’r Inffyrmari Frenhinol yn y ddinas.
Y gred yw fod y dyn wedi cael ffrae efo dau ddyn croenddu yn eu 20au. Fe arweiniodd hyn at gwffas, cyn i’r ddau ddyn gael eu gweld yn gadael yr ardal mewn car o liw arian.