Mae David Cameron wedi dweud ei fod yn dymuno gweld y terfysgwr o Brydain, ‘Jihadi John’, fynd o flaen ei well mewn llys barn.

Daw hyn wedi adroddiadau ei fod wedi’i anafu yn ystod un o gyrchoedd y cynghreiriaid yn erbyn arweinwyr Islamic State (IS) yn Irac.

Fe wrthododd David Cameron a gwneud sylw penodol ar y cyrch, ond fe rybuddiodd fod unrhyw berson sy’n meddwl am adael Prydain ac ymuno yn y frwydr derfysgol yn erbyn y Gorllewin yn “rhoi eu hunain mewn peryg mawr”.

“Dw i am weld Jihadi John yn mynd o flaen ei well,” meddai, “oherwydd y pethau erchyll sydd wedi digwydd yn Syria.”