Mae ymgyrchwyr rhyddid sifil wedi beirniadu cynlluniau David Cameron i geisio canslo pasborts pobl sydd wedi teithio dramor i ymladd dros IS yn Syria ac Irac.
Dywedodd y Prif Weinidog heddiw ei fod yn bwriadu cyflwyno mesur gwrth-derfysgol gerbron San Steffan yn yr wythnosau nesaf fyddai’n diddymu pasborts pobl sydd wedi bod yn ymladd dros eithafiaeth Islam.
Ond yn ôl grŵp ymgyrchu Liberty fe fyddai hyn yn golygu fod y bobl hyn ddim yn ddinasyddion mewn unrhyw wlad – rhywbeth sydd yn groes i gyfraith ryngwladol.
Cynlluniau Cameron
Tra’n ymweld ag Awstralia heddiw dywedodd David Cameron fod angen cyflwyno’r pwerau hyn er mwyn ceisio atal y “bygythiad” i Brydain oddi wrth yr eithafwyr.
Gallai’r cynlluniau weld swyddogion y ffin a heddlu meysydd awyr yn cael yr hawl i gymryd pasbort unrhyw un maen nhw’n eu hamau o fod yn ymwneud â brawychiaeth o unrhyw fath.
Byddai’r ddeddf hefyd yn atal pobl rhag dychwelyd i Brydain o Syria ac Irac yn y ddwy flynedd nesaf oni bai eu bod nhw’n cytuno i fyw dan oruchwyliaeth fanwl.
Petai rhywun yn ceisio sleifio i mewn i’r wlad ar ôl i’w pasbort gael ei ganslo, fe allen nhw wynebu pum mlynedd dan glo.
Mae’r mesur hefyd yn cynnwys gorchymyn i gwmnïau awyrennau gadw rhestr fanwl o bobl sydd ddim yn cael teithio i Brydain – fe allen nhw golli’u trwydded hedfan petai nhw’n caniatáu i’r bobl hynny deithio.
“Rydyn ni’n credu bod angen y pwerau ychwanegol hyn er mwyn cadw’r wlad yn saff, yn ogystal â’r deddfau troseddol presennol, a dw i’n meddwl ei bod hi’n gwneud synnwyr i ni fwrw ‘mlaen â hynny,” meddai David Cameron.
Dim gwladwriaeth?
Mae’r cynlluniau wedi’u beirniadu gan fudiad hawliau sifil Liberty, fodd bynnag.
“Nid yw dympio dinasyddion sydd yn cael eu hamau – fel petaen nhw’n sbwriel, gan hepgor eich cyfrifoldebau i’r gymuned ryngwladol – yn ymddangos fel ffordd dda o annog cyfraith a threfn,” meddai cyfarwyddwr y mudiad Shami Chakrabarti.
“Bydd y pwerau i gipio pasborts mewn meysydd awyr yr un mor ddadleuol â’r pwerau ‘stopio a chwilio’ ddaeth cynt, ac nid ydyn nhw yn debygol o weithio ychwaith.
“Pryd fydd y llywodraeth yn dysgu nad oes modd torri corneli pan mae’n dod at ddiogelwch? Mae angen gwybodaeth, tystiolaeth a chyfiawnder, nid areithiau a rhagor o ddeddfau newydd.”