Mae’r Loteri Genedlaethol wedi gwario mwy na £1.47 biliwn ar brosiectau yng Nghymru yn ystod yr ugain mlynedd ddiwethaf.
Ers cael ei sefydlu ym mis Tachwedd 1994, mae dros 41,000 o grantiau wedi’u dyfarnu i unigolion a sefydliadau ar draws Cymru.
Stadiwm y Mileniwm yng Nghaerdydd sydd wedi derbyn y grant mwyaf gan y sefydliad, sef £46.3 miliwn yn 1997.
Ymhlith y grantiau eraill mae £8.58 miliwn wedi mynd i adeiladu Pwll Cenedlaethol Cymru yn Abertawe; dros £7.5 miliwn i adeiladu Felodrom Cenedlaethol Cymru yng Nghasnewydd; dros £2.9 miliwn i adfer tŷ Hedd Wyn yn Yr Ysgwrn ym Mharc Cenedlaethol Eryri; a thros £2 miliwn i helpu i greu Canolfan Menter Creadigol Galeri Caernarfon Cyf.
Gweddnewid
“Mae’r Loteri Genedlaethol wedi helpu i weddnewid bywydau yng Nghymru er gwell, gan greu tirnodau diwylliannol eiconig, rhoi’r grym i gymunedau a datblygu talent chwaraeon o safon fyd-eang,” meddai Jackie O’Sullivan, o’r Loteri Genedlaethol.
“Mae arian y Loteri Genedlaethol wedi gwella iechyd pobol, diogelu ein treftadaeth gyfoethog a chreu dyfodol gwell i bawb.
“Yn ychwanegol at yr holl brosiectau sydd wedi elwa, mae miloedd o unigolion ar draws y DU wedi ennill gwobrau sy’n newid bywydau gyda 3,600 o filiwnyddion wedi’u creu hyd yma.”