Mae cyn-grwner o Sir Gâr wedi cael ei garcharu am bum mlynedd ar ôl dwyn £1m oddi wrth ffermwr oedd yn gleient iddo.
Cafwyd William John Owen, 79 oed o Landeilo, yn euog o 17 cyhuddiad o ladrata a chadw cyfrifon ffug, ar ôl cymryd yr arian o ystâd John Williams.
Roedd William John Owen wedi bod yn cymryd £125,000 y flwyddyn allan o gyfrif John Williams, ar ôl cael ei benodi’n gyfrifol am ddosrannu ewyllys y ffermwr.
Er bod cwmni cyfreithiol William John Owen yn brin o arian, fe glywodd Llys y Goron Caerdydd ei fod ef yn byw bywyd moethus.
Roedd hyn oherwydd ei fod wedi bod yn hawlio arian gan ystâd John Williams er gwaethaf y ffaith ei fod wedi marw ers 14 mlynedd.
Wrth ddedfrydu William John Owen, fe ddywedodd y barnwr Stephen Hopkins fod y cyn-grwner wedi colli ei enw da yn yr ardal yn llwyr.
“Roeddech chi’n adnabyddus ac yn boblogaidd yn ardal Sir Gaerfyrddin,” meddai’r barnwr wrtho.
“Roedd hynny yn ei gwneud hi yn anoddach cwestiynu’r arian oedd yn cael ei dynnu o’r cyfrif.”