Anecito Roa Obsioma
Mae teyrnged wedi cael ei roi i nyrs 55 oed fu farw mewn damwain y tu allan i Ysbyty Athrofaol Cymru, Caerdydd fore Mercher.

Cafodd Anecito Roa Obsioma ei ladd yn dilyn gwrthdrawiad â cherbyd nwyddau ger prif fynedfa’r adran ddamweiniau ac achosion brys.

Dywedodd ei nith amdano: “Roedd yn fab, brawd, ewythr a ffrind. Rydym ni’r teulu a’i ffrindiau i gyd yn torri ein calonnau. Allwn ni ddim credu bod hyn wedi digwydd i ddyn mor garedig, anhunanol a hael oedd wastad yn rhoi pobol eraill yn gyntaf.

“Fe wnaeth Cito symud i Brydain er mwyn rhoi cyfle gwell i’w deulu ar Ynysoedd y Philippines. Gweithiodd yn Llanelli cyn setlo yng Nghaerdydd tua deng mlynedd yn ôl.

“Bydd pawb yn y gymuned Ffilipino yng Nghaerdydd a’i gyd-weithwyr yn yr ysbyty yn gweld ei eisiau.”

Mae Ysbyty Athrofaol Caerdydd hefyd wedi talu teyrnged i Anecito Roa Obsioma

Mae Heddlu’r De yn ymchwilio i’r ddamwain ac yn gofyn i unrhyw lygad dystion gysylltu â nhw ar 101.