Mae rhieni Joshua Day wedi talu teyrnged i’w mab a diolch i’r meddygon geisiodd achub ei fywyd, ar ôl iddo farw mewn damwain car ger Alltwalis yn Sir Gaerfyrddin ddydd Mercher.
Tarodd car Renault Clio Joshua Day, 18 oed, yn erbyn Ford Fiesta ar yr A485 am oddeutu 8.10yb ar 12 Tachwedd.
Cafodd dau berson arall oedd yn teithio yn Renault Clio eu cludo i’r ysbyty gydag anafiadau difrifol, ac fe gafodd dau berson oedd yn y Ford Fiesta eu trin am anafiadau hefyd.
Teyrnged y teulu
Mewn datganiad heddiw fe ddywedodd Mark and Rosalind Day fod y teulu cyfan wedi torri’u calonnau ar ôl clywed am farwolaeth eu mab.
“Roedd Joshua yn fab, ŵyr, brawd, nai a thad bedydd annwyl i ni. Rydyn ni’n torri ein calonnau o’i golli,” meddai ei rieni mewn datganiad.
“Fe ddechreuodd Joshua ei addysg yn Ysgol y Castell, Cydweli cyn symud i Ysgol Rhydygors, Caerfyrddin ble roedd yn gwneud yn dda.
“Roedd nawr yn mynychu Coleg Gelli Aur ac yn gwneud yn dda yno.
“Roedd fel unrhyw fachgen 18 oed arall oedd yn hoffi treulio amser gyda’i ffrindiau.
“Bydd y teulu i gyd yn gweld colled ar ôl Joshua, ac fe hoffwn ddiolch i bawb, yn enwedig ei ffrindiau, sydd wedi cynnig eu cefnogaeth a dweud geiriau annwyl am Joshua.
“Hoffwn ddiolch hefyd i’r meddyg a’r nyrs a aeth ati i drin Joshua ar ôl y ddamwain wrth iddyn nhw weithio’n galed i geisio ei achub.
“Rydym yn falch bod y bobl eraill yn y ddamwain yn iawn ac rydyn ni’n meddwl amdanyn nhw a’u teuluoedd hefyd.”