Mae hi wedi costio £3,350 y pen i ddifa bob mochyn daear mewn cynllun yn ne Lloegr, yn ôl ffigyrau swyddogol.
Ond mae ymgyrchwyr yn honni bod y gost yn fwy na £5,000 ar gyfer pob un anifail.
Cafodd 1,879 o foch daear eu saethu yn Swydd Gaerloyw ac yng Ngwlad yr Haf ym mlwyddyn gynta’r cynllun, sydd wedi costio £6.3 miliwn i’r trethdalwyr.
Dywedodd Llywodraeth Prydain fod y gost mor uchel o ganlyniad i waith monitro pa mor drugarog ac effeithiol yw’r lladd, gyda thua £2.6 miliwn yn cael ei wario ar brofion post mortem.
Mae gweinidogion a ffermwyr yn mynnu bod difa moch daear yn hanfodol i reoli TB mewn gwartheg, sy’n medru dal yr haint gan foch daear.
Ond barn yr ymgyrchwyr yw bod y cynllun difa yn greulon ac yn aneffeithiol.