Mi fydd canolfan gelfyddydau Pontio yn mynd a chynyrchiadau i leoliadau eraill ym Mangor a’r cyffiniau y flwyddyn nesaf, am nad yw’r gwaith adeiladu ar y ganolfan gwerth £45 miliwn wedi ei gwblhau.
Fe gafodd y cynhyrchiad agoriadol Chwalfa gan Theatr Genedlaethol Cymru yn ogystal â’r gala agoriadau gyda Bryn Terfel eu canslo’r mis diwethaf, oherwydd yr oedi gyda’r gwaith adeiladu.
Fe fydd cynnal y digwyddiadau yn ystod y gwanwyn 2015 yn ffordd o baratoi ar gyfer rhaglen lawn o ddigwyddiadau a fydd cael ei lansio yn yr haf, yn ôl llefarydd.
Bydd cynyrchiadau yn cael eu llwyfannu yn Neuadd Ogwen ym Methesda, Clwb Pêl-droed Bangor, Cadeirlan Bangor a Neuaddau Powis a Pritchard-Jones ym Mhrifysgol Bangor.
Amynedd
Mae Elen ap Robert, Cyfarwyddwr Artistig Pontio, wedi diolch i drigolion am fod yn “amyneddgar” yn ystod yr hyn sydd wedi bod yn gyfnod “anodd” i Pontio.
Ychwanegodd: “Bydd Pontio ar y lôn yn mynd â chynyrchiadau gan National Theatre Wales, Theatr Bara Caws, Jyglo Gandini rhyngwladol ynghyd â chyngherddau cerddoriaeth siambr gan opera Cenedlaethol Cymru a Camerata Cymru, sioeau theatr i blant a chomedi i leoliadau eraill rhwng mis Ionawr a mis Ebrill.
“Bydd prosiect celfyddydol BLAS yn cynnal gweithgareddau cyfranogol ar gyfer plant ysgol yng nghanolfan gymunedol Hirael ac ysgolion.
“Rydym yn edrych ymlaen at weithio gyda’n lleoliadau partner i gyflwyno amrywiaeth eang o ddigwyddiadau celfyddydol i’n cynulleidfaoedd a myfyrwyr lleol, wrth i ni aros nes cwblheir Pontio.”