Y cartref yn New Malden
Fe fydd llys yn cael clywed mwy am y rhesymau pam fod mam gefnog wedi lladd ei thri phlentyn anabl.

Fydd dim dedfryd heddiw yn achos Tania Clarence, 42 oed, ond fe fydd y barnwr yn cael clywed rhagor o fanylion y digwyddiadau a dadleuon yr amddiffyniad o blaid y fam.

Roedd hi wedi mygu ei phlant – Olivia, 4, ac efeilliaid 3 oed, Ben a Max – ym mis Ebrill eleni.

Fe dderbyniodd yr erlyniad ei phle o ddynladdiad a’i bod wedi gwneud hynny er mwyn “rhoi diwedd ar eu dioddefaint”.

SMA

Roedd y tri phlentyn yn diodde’ o gyflwr o’r enw SMA, sy’n arwain at wendid yn y cyhyrau ond ddim o angenrheidrwydd yn golygu marwolaeth gynnar.

Roedd Tania Clarence, o ardal gefnog New Malden yn Llundain, wedi ceisio lladd ei hunan hefyd, ond wedi methu.

Fe ddaeth heddlu o hyd i nodyn yn dweud wrth ei gŵr na allai fyw gyda’r hyn yr oedd wedi’i wneud.

Roedd ei gŵr, Gary, sy’n fanciwr buddsoddi, ar daith fusnes yn Ne Affrica ar y pryd.

Fe fydd y barnwr yn rhoi ei ddyfarniad mewn gwrandawiad diweddarach.