Un o brydau KK Fine Foods (o wefan y cwmni)
Fe fydd cwmni bwyd o Sir y Fflint yn creu 90 o swyddi newydd wrth iddyn nhw ehangu eu safle gyda chefnogaeth gan Lywodraeth Cymru a Chyllid Cymru.
Mae KK Fine Foods, sy’n cynhyrchu bwyd wedi’i rewi, yn buddsoddi £4.2 miliwn ychwanegol yn ei safle ar Stad Ddiwydiannol Glannau Dyfrdwy – buddsoddiad mwyar cwmni hyd yn hyn.
Fe fydd y ffatri yn cael estyniad o 10,000 troedfedd sgwâr ac mae’r cwmni’n anelu at gynhyrchu gwerth mwy na £30 miliwn o brydau parod wedi’u rhewi bob blwyddyn.
Cafodd £720,000 ei roi at y buddsoddiad gan Gronfa Twf Economaidd Llywodraeth Cymru a £1.2 miliwn gan Gyllid Cymru.
Llwyddiant
Yn y blynyddoedd diwetha’, mae KK wedi bod yn gwerthu prydau Nadolig wedi’u rhewi i gadwyni o archfarchnadoedd fel Iceland ac Aldi ac, yn sgil y cynnydd yn y farchnad hon, mae’r cwmni wedi gorfod ehangu.
“Ein bwriad, dros y tair neu bedair blynedd nesaf, oedd cynyddu ein capasiti i dros £30 miliwn er mwyn gallu mentro i farchnadoedd newydd,” meddai Leyla Edwards, Prif Weithredwr a sylfaenydd y cwmni.
“Ond, oherwydd llwyddiant ein cynhyrchion tymhorol a’r ffaith bod lefelau ein gwerthiant yn parhau i gynyddu, rydym wedi gorfod ehangu nawr er mwyn ateb y galw hwnnw.