Ni ddylai pobol sy’n cael eu galw i’r llys fyth gael yr hawl i fod yn ddienw, yn ôl un o farnwyr mwyaf pwerus Cymru a Lloegr.

Roedd yr Arglwydd Ustus Thomas yn siarad wedi achos y myfyriwr Erol Incedal, sy’n cael ei amau o dargedu’r cyn-brif weinidog Tony Blair a’i wraig Cherie fel rhan o gynllwyn brawychiaeth.

Roedd rhannau o’r achos yn gyfrinachol, gyda Erol Incedal yn cael ei gyfeirio ato fel AB a’i gyd-ddiffynnydd Mounir Rarmoul-Bouhadjar fel CD.

Cafodd rheolau cyfrinachedd yr achos eu newid ar ôl i’r wasg herio’r Uchel Lys gan ddweud fod clywed yr achos llawn y tu ôl i ddrysau caeedig yn mynd yn erbyn diogelwch cenedlaethol. O ganlyniad, cafodd y diffynyddion eu henwi yn gyhoeddus.

Yn ôl yr Arglwydd Ustus Thomas: “Nid yw cyfiawnder sydd ddim yn agored yn gyfiawnder da o gwbl.”

Roedd yn credu y dylai cyfrinachedd gael ei esbonio yn llawn yn yr achosion sy’n gofyn am hynny.

Ond fel arall dylid bod rheolau clir i sicrhau nad yw achos fel un Erol Incedal yn cael ei gadw yn gyfrinachol eto, meddai.