Harry Roberts
Mae’r llofrudd Harry Roberts wedi cael ei ryddhau o’r carchar, er gwaetha galwadau gan berthnasau’r rhai gafodd eu lladd, gwleidyddion ac uwch swyddogion yr heddlu i’w gadw dan glo.

Cafodd Roberts, 78 oed, ei garcharu am oes am saethu’n farw tri o blismyn ym 1966. Cafodd ei ryddhau o garchar Littlehey yn Sir Caergrawnt nos Lun.

Dywedodd Cadeirydd Ffederasiwn Heddlu’r Metropolitan, John Tully, ar Twitter bod rhyddhau Roberts yn “ffiaidd.”

Fe dreuliodd Roberts 45 mlynedd yn y carchar am lofruddio’r Ditectif Sarjant Christopher Head, 30, y Ditectif Gwnstabl David Wombwell, 25, a’r Cwnstabl Geoffrey Fox, 41.

Bu beirniadaeth hallt fis diwethaf yn dilyn y cyhoeddiad ei fod am gal ei ryddhau o’r carchar.

‘Gwarthus’

Dywedodd Mandy Fox, merch y Cwnstabl Geoffrey Fox, fod y penderfyniad yn “warthus”.

Ychwanegodd Gillian Wombwell, gweddw’r Ditectif Gwnstabl David Wombwell: “Mae ein dedfryd ni am oes ac fe ddylai ei ddedfryd yntau fod am oes hefyd.”

Mae Comisiynydd Heddlu’r Met Syr Bernard Hogan-Howe hefyd wedi ymuno yn y feirniadaeth.

Ond fis diwethaf, fe wnaeth y Dirprwy Brif Weinidog Nick Clegg amddiffyn y Bwrdd Parôl gan ddweud nad oedd penderfyniadau’n cael eu gwneud ar sail “emosiynau” ond “sut mae’r system gyfiawnder yn gweithio.”

Dywedodd llefarydd ar ran y Weinidogaeth Gyfiawnder nad ydyn nhw’n gwneud sylw am unigolion ond ychwanegodd bod troseddwyr sydd wedi cael dedfryd oes “yn cael eu monitro’n ofalus. Os nad ydyn nhw’n cydymffurfio a’r amodau fe allen nhw gael eu dychwelyd i’r carchar yn syth.”