Chris Grayling
Mae’r Ysgrifennydd Cyfiawnder Chris Grayling wedi ymddiheuro wrth Dŷ’r Cyffredin ar ôl datgelu bod staff carchardai wedi gwrando neu gofnodi galwadau ffôn rhwng carcharorion a’u Haelodau Seneddol.
Dywedodd Chris Grayling y bydd ymchwiliad annibynnol yn cael ei gynnal gan y Prif Arolygydd Carchardai Nick Hardwick.
Meddai: “Mae’r mater hwn yn ymestyn yn ôl i 2006, ac yn ymwneud yn bennaf â’r cyfnod cyn hydref 2012 pan wnaeth y Llywodraeth hon wneud newidiadau i dynhau’r system.
“Mae hwn yn fater difrifol a hoffwn i ddechrau drwy ymddiheuro i’r Tŷ, ar ran fy adran.”