Peter Wanless
Mae disgwyl i’r Swyddfa Gartref ddod o dan y llach heddiw pan fydd adroddiad i’r modd yr oedd wedi delio gyda honiadau o gam-drin plant yn rhywiol yn cael ei gyhoeddi.
Cafodd Peter Wanless, prif weithredwr yr NSPCC, ei benodi ym mis Gorffennaf i gynnal ymchwiliad ar ôl i adolygiad mewnol ddarganfod bod yr adran wedi “colli neu ddifrodi” 114 o ffeiliau rhwng 1979 a 1999.
Roedd yn cynnwys dogfen a gyflwynwyd gan y diweddar AS Ceidwadol Geoffrey Dickens i’r Ysgrifennydd Cartref ar y pryd, yr Arglwydd Brittan ym 1983.
Mae’r Arglwydd Brittan wedi gwadu iddo fethu a gweithredu ynglŷn â’r wybodaeth yn y ddogfen a oedd, yn ol pob tebyg, yn enwi gwleidyddion amlwg a ffigurau eraill a oedd yn rhan o rwydwaith o bedoffiliaid.
Mae disgwyl i Peter Wanless feirniadu’r Swyddfa Gartref am y modd yr oedd yn cadw cofnodion ac archifau, ac mae’n ymddangos nad yw dogfen Geoffrey Dickens wedi dod i’r fei.
Cadeirydd
Yr Ysgrifennydd Cartref Theresa May oedd wedi gorchymyn yr ymchwiliad fel rhan o’i hymrwymiad i ddatgelu’r gwir am honiadau o gam-drin plant yn rhywiol gan ffigurau allweddol.
Bydd canfyddiadau Peter Wanless yn cael eu defnyddio gan ymchwiliad mwy eang i weithgareddau pedoffiliaid sydd wedi eu cysylltu â chyrff cyhoeddus a sefydliadau.
Ond mae’r chwilio’n parhau am gadeirydd i arwain yr ymchwiliad yn dilyn ail ymddiswyddiad fis diwethaf. Daeth i’r amlwg bod Fiona Woolf yn byw’n agos i’r Arglwydd Brittan a’i wraig a’u bod wedi ciniawa gyda nhw ar sawl achlysur.
Mae Theresa May wedi ymddiheuro i’r dioddefwyr am yr oedi cyn dod o hyd i rywun i arwain yr ymchwiliad.