Awyren di-beilot
Mae awyrennau di-beilot, neu drôns, o Brydain, wedi cael eu defnyddio am y tro cyntaf i ymosod ar filwriaethwyr y Wladwriaeth Islamaidd (IS) yn Irac dros y penwythnos, meddai’r Weinyddiaeth Amddiffyn.
Cafodd cyfres o ymgyrchoedd eu cynnal ger Bayji, i’r gogledd o Baghdad, lle’r oedd eithafwyr IS wedi bod yn gosod dyfeisiadau ffrwydrol.
Daeth yr ymosodiadau ar ôl i Brydain gyhoeddi ei bod yn cynyddu ei phresenoldeb milwrol yn Irac, lle mae’n helpu lluoedd lleol i frwydro yn erbyn eithafwyr IS.
Mae IS bellach wedi meddiannu rhannau helaeth o Irac a Syria.
‘Datblygu ffyrdd newydd o ladd pobol’
Ond mae gweinidog o Gaernarfon wedi beirniadu’r defnydd o’r arfau hyn.
Dywedodd Rhys Llwyd: “Roedd hi’n drist clywed y newyddion fod y Weinyddiaeth Amddiffyn yn ymfalchïo eu bod wedi defnyddio eu Drone Reaper am y tro cyntaf. Wrth i dechnoleg ddatblygu yr oll a welir yw datblygu ffyrdd newydd o ladd pobol.”
Gyda meysydd awyr fel Aberporth a Llanbedr, Harlech ar flaen y gad yn datblygu’r arfau hyn, mae Rhys Llwyd yn tristau fod gan Gymru rôl yn eu datblygiad.
Meddai, “Tristwch pellach datblygiadau’r drôns i ni fel Cymry yw rôl meysydd awyr Aberporth a Llanbedr, Harlech yn eu hymchwil, datblygiad a hyfforddi. Efallai bod y canolfannau yma’n dod a budd economaidd i Gymru, ond prin y gall y budd yna gydbwyso a’r golled foesol sylweddol fwy sydd ynghlwm a’n ymwneud ni a’r drons yma.
“Yr unig beth da all ddod allan o’r cyhoeddiad heddiw yw tynnu sylw mwy o Gymru at y filwriaeth yma sy’n digwydd yng ngorllewin Cymru gan obeithio y bydd nifer o Gymry yn uno i ddweud yn glir “nid yn fy enw i”.