Mae cwmni archfarchnad Aldi wedi dweud y bydd yn creu 35,000 o swyddi newydd yn y DU gan obeithio agor 1,000 o siopau erbyn 2022.

Dywedodd Aldi ei fod yn gobeithio buddsoddi £600 miliwn i ehangu’r busnes yn y DU gyda’r disgwyl y bydd 550 o siopau newydd yn agor dros yr wyth mlynedd nesaf.

Cafodd y cynllun ei drafod yn ystod ymweliad y Prif Weinidog David Cameron a phencadlys y cwmni yn Sir Warwick.

Mae poblogrwydd cwmnïau disgownt fel Aldi a Lidl wedi tyfu’n sylweddol yn ddiweddar wrth i’r gystadleuaeth rhwng yr archfarchnadoedd eraill gynyddu.

Fe agorodd Aldi 42 o siopau’r llynedd ac mae disgwyl i’r cwmni agor 54 erbyn diwedd y flwyddyn, gyda 60-65 o siopau newydd yn agor yn 2015.

Mae gan Aldi mwy na 7,000 o siopau ar draws tri chyfandir.