Mae Plaid Cymru, y Blaid Werdd a’r SNP (Plaid Genedlaethol yr Alban) wedi cyhoeddi llythyr agored ar y cyd sy’n gofyn i’r BBC ail-ystyried peidio gadael iddyn nhw fod yn rhan o ddadl deledu gyda’r prif bleidiau.

Cyn yr etholiad cyffredinol ym mis Mai 2015, mae’r BBC yn bwriadu darlledu dadl rhwng y Blaid Lafur, y Ceidwadwyr a’r Democratiaid Rhyddfrydol. Yn ddiweddar, penderfynwyd ymestyn y gwahoddiad i UKIP “o ganlyniad i’r cynnydd cyffredinol ym mhleidlais UKIP”.

Ond, mewn llythyr at gadeirydd y BBC Rona Fairhead, mae Plaid Cymru, y Blaid Werdd a’r SNP yn dweud y dylai’r ddadl “adlewyrchu’r gefnogaeth” sy’n cael ei roi iddyn nhw hefyd.

Mae’r llythyr wedi ei lofnodi gan Jonathan Edwards, Paul Flynn, Y Farwnes Tanni Grey-Thompson, Elfyn Llwyd, Hywel Williams, Patrick Harvie, Y Farwnes Jenny Jones, Y Farwnes Helena Kennedy, Caroline Lucas, Y Barwn Herman Ouseley, Angus Robertson, Nicholas Trench a Mike Weir.

‘Adlewyrchiad ehangach’

Dywed rhan o’r llythyr: “Rydym yn credu fod gwasanaeth cyhoeddus y gorfforaeth yn rhoi achos clir tros greu adlewyrchiad ehangach na’r hyn sy’n cael ei gynnig ar hyn o bryd. Mae’r BBC yn debygol o:

• Ymgysylltu a chynulleidfa eang
• Annog trafodaeth ynglŷn â newyddion a materion cyfoes
• Creu gwell dealltwriaeth o’r broses seneddol a’r sefydliadau gwleidyddol sy’n llywodraethu ym Mhrydain.

“Rydym yn credu na fyddai’r dyletswyddau hyn yn cael eu cyflawni yn llawn os nad yw’r gwylwyr yn cael cyfle i glywed gan ystod o bleidiau gwleidyddol.”