Elfyn Llwyd
Mae Aelod Seneddol Plaid Cymru Elfyn Llwyd wedi galw am well oruchwyliaeth i bobl sy’n dioddef o gyflwr iechyd meddyliol difrifol ar ôl eu rhyddhau o’r carchar.
Daw hyn yn dilyn marwolaeth Cerys Yemm, 22 oed, fu farw yn dilyn ymosodiad canibalaidd arni yng ngwesty’r Sirhowy Arms, yn Argoed ger y Coed Duon ddydd Iau diwethaf.
Roedd Matthew Williams, sy’n cael ei amau o’i llofruddio, wedi cael ei ryddhau o’r carchar yn ddiweddar a dywedodd ei fam, Sally Ann, wrth y BBC bod ei mab yn dioddef o sgitsoffrenia paranoiaidd.
Dywedodd nad oedd Matthew Williams wedi cael presgripsiwn am feddyginiaeth i reoli’r cyflwr wedi iddo gael ei ryddhau o’r carchar lai na phythefnos yn ôl ac y dylai fod wedi bod yn yr ysbyty. Mae hi’n honni y gallai’r marwolaethau fod “wedi cael eu hosgoi.”
Bu farw Matthew Williams yn y gwesty yn fuan ar ôl i’r heddlu danio gwn Taser ato a’i arestio.
Mae disgwyl i’r Llywodraeth adolygu’r gofal a gafodd Williams, 34, ar ôl iddo gael ei ryddhau o’r carchar.
‘Gwell goruchwyliaeth’
Dywedodd Elfyn Llwyd fod angen ail edrych ar y broses: “Mae’r achos erchyll hwn yn dangos na ddylai unigolyn sy’n dioddef o gyflwr iechyd meddwl megis sgitsoffrenia gael ei ryddhau yn awtomatig oni bai fod goruchwyliaeth wedi ei drefnu o flaen llaw.”
Mae’n gweld fod angen i’r gwasanaethau prawf gynnig gwell goruchwyliaeth o unigolion fel hyn.
“Dylai hyn gynnwys cyswllt rheolaidd gyda swyddog prawf, a sicrhau fod meddyginiaeth yr unigolyn yn cael ei fonitro’n ofalus.
Mae’n gweld fod angen dysgu o’r wers hon ac yn gweld fod angen ailedrych ar y system bresennol.
“Mae hi’n amlwg fod gwersi difrifol i’w dysgu o’r achos hwn a chredaf y dylid ail-edrych ar arferion o fewn y system cyfiawnder troseddol ynghlwm a rhyddhau carcharorion.”