Porthladd Dover
Cludwyd pedwar o bobl gyda man anafiadau i’r ysbyty, ar ôl i long daro wal harbwr.
Roedd y “Dover Seaways” sy’n perthyn i gwmni Seaways DFDS, yn gadael y doc yn Dover ar gyfer taith 8yb i Dunkirk yn Ffrainc pan digwyddodd hyn.
Cadarnhaodd llefarydd ar ran awdurdod Porthladd Dover bod gwasanaethau brys yn bresennol.
Meddai: “Ein blaenoriaeth gyntaf yw sicrhau diogelwch pawb sydd ar y llong.
Roedd criw’r Dover Seaways ac mae ein tîm hunain wedi rhoi cynlluniau argyfwng  ar waith er mwyn sicrhau diogelwch y rhai arno.”
Erbyn hyn mae’r llong wedi angori yn Nociau Dwyrain y porthladd ac mae disgwyl bydd y digwyddiad yn destun ymchwiliad mewnol a swyddogol.