Sul y Cofio - Llun gan y Royal British Legion
Bore ‘ma, mae gwasanaethau coffa wedi cael eu cynnal ar hyd a lled Cymru i gofio aberth aelodau o’r lluoedd arfog.
Mae’r flwyddyn yma yn nodi 100 mlynedd ers cychwyn y Rhyfel Byd Cyntaf.Cafodd gwasanaeth cenedlaethol ei gynnal ger Cofeb Ryfel Genedlaethol Cymru yng Nghaerdydd, gyda gwasanaethau eraill ym Mangor, Wrecsam, Abertawe, a threfi a phentrefi ledled Cymru.
Yn ystod yr wythnods diwethaf agorwyd cae coffa Cymreig yng Nghastell Caerdydd ac mae o gwmpas 10,000 o groesau pren wedi eu gosod yno i gofio’r rhai fu farw.
“Dywedodd Prif Weinidog Cymru, Carwyn Jones AC: “Mae’n anrhydedd talu teyrnged i’r lluoedd arfog sydd wedi rhoi eu bywydau. Mae arnom ddyled fawr o ddiolchgarwch iddynt.”
Ychwanegodd Ysgrifennydd Cymru, Stephen Crabb, Ysgrifennydd Cymru: “Bu farw 40,000 o Gymry rhwng 1914 a 1918, a ddylen ni fyth anghofio aberth enfawr y dynion a’r menywod hynny, er mwyn gwarchod ein rhyddid ni.
“Mae’r digwyddiadau ledled Cymru heddiw yn dangos ein diolchgarwch mawr ni am yr aberth hwnnw, ac aberth y rhai hynny fu’n brwydro mewn rhyfeloedd ers hynny.”