Mae arweinydd grŵp Plaid Cymru ar Gyngor Sir Caerfyrddin, Cynghorydd Emlyn Dole, yn bygwth cyflwyno cynnig o ddiffyg hyder yn yr arweinyddiaeth.
Bydd y cynnig yn cael ei wneud os nad yw’r glymblaid o Gynghorwyr Llafur/Annibynnol sy’n rhedeg yr awdurdod yn ymateb yn bositif i adroddiad gan Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru.
Ar ôl casglu tystiolaeth gan gynghorwyr, swyddogion a’r cyhoedd, mae’r Gymdeithas wedi cyhoeddi adroddiad sy’n tynnu sylw at wendidau sylweddol a sylfaenol yng ngweinyddiaeth y Cyngor. Mae’r adroddiad yn gwneud 39 o argymhellion ynglŷn â sut i wella’r sefyllfa.
Daw hyn yn dilyn pryder eleni am daliadau gan y Cyngor i’r prif weithredwr, Mark James.
Meddai Cynghorydd Dole : “Cafodd democratiaeth yn Neuadd y Sir ei erydu’n arw wrth i rym a chyfrifoldebau gael eu pasio o’r aelodau etholedig i swyddogion y cyngor.
“Mae hyn wedi gwyrdroi’r broses ddemocrataidd ac mae’r gwendid yma’n cael ei gydnabod yn llawn gan adroddiad y WLGA.
“Os bydd y Weinyddiaeth yn gwamalu am hyn, byddwn yn cyflwyno cynnig o ddiffyg hyder yn y Bwrdd Gweithredol cyfan.”
Yn gynharach eleni dyfarnodd Swyddfa Archwilio Cymru bod y taliadau, oedd yn ymwneud â phensiwn ac achos enllib, yn anghyfreithlon. Arhosodd Mr James i ffwrdd o’i waith am tua thri mis tra bu’r heddlu yn ystyried os oedd trosedd wedi’i chyflawni.