Cymru 28–33 Awstralia

Colli fu hanes Cymru wrth i Awstralia ymweld â Stadiwm y Mileniwm brynhawn Sadwrn.

Cafwyd gwledd o geisiau yn yr hanner cyntaf gyda’r ddau dîm yn croesi am dri chais yr un. Roedd hi’n gêm lai agored yn yr ail gyfnod a rheolodd Awstralia a’i maswr, Bernard Foley, y gêm fymryn yn well na Chymru.

Hanner Cyntaf

Dechreuodd Cymru ar dân gyda chais i Rhys Webb yn y tri munud cyntaf. Enillodd Sam Warburton dir da cyn i ffug bas Webb dwyllo amddiffyn yr ymwelwyr ac agor y drws i’r mewnwr, 7-0 wedi trosiad Leigh Halfpenny.

Chwarter awr oedd ar y cloc pan groesodd Israel Folau am gais cyntaf Awstralia yn dilyn tacl wan Dan Biggar ar Michael Hooper, ac roedd y sgôr yn gyfartal wedi trosiad Bernard Foley.

Dilynodd ail gais yr ymwelwyr yn fuan wedyn a Folau oedd y sgoriwr unwaith eto, yn rhyng-gipio pas Webb ar ei linell 22 medr ei hun cyn rhedeg yr holl ffordd i sgorio.

Ond roedd hi’n gêm agored ac roedd Cymru’n gyfartal eto pan sgoriodd Alex Cuthbert chwarter awr cyn yr egwyl yn dilyn bylchiad George North.

Yn ôl y daeth Awstralia eto wrth i Tevita Kuridrani dorri trwy amddiffyn Cymru’n rhy rhwydd o lawer i groesi o dan y pyst.

Ond Cymru gafodd air olaf yr hanner wrth i Alun Wyn Jones dirio’r bêl yng nghanol pentwr o gyrff, 21 pwynt yr un wedi deugain munud cyffrous.

Ail Hanner

Roedd ychydig mwy o strwythur i’r gêm yn yr ail hanner a chafwyd y pwyntiau cyntaf o gic gosb pan drosodd Foley wedi tri munud i roi ei dîm yn ôl ar y blaen.

Ychwanegodd y maswr un arall toc cyn yr awr i ymestyn y fantais i chwe phwynt ond ôl y daeth Cymru.
Roedd gan y tîm cartref oruchafiaeth yn y sgrym ac fe ddyfarnwyd cais cosb iddynt yn dilyn cyfres o droseddau gan

Awstralia yng nghysgod eu pyst eu hunain. Rhoddodd trosiad Rhys Priestland Gymru bwynt ar y blaen gyda chwarter awr ar ôl i amddiffyn y fantais.

Ond, fel sydd yn digwydd mor aml wrth i Gymru herio Awstralia, methu a gwneud hynny a wnaeth tîm Warren Gatland. Llwyddodd Foley gyda gôl adlam chwe munud o’r diwedd cyn ychwanegu cic gosb yn y munud olaf un.

Ymdrech ddewr gan Gymru felly ond yr un hen stori, Awstralia’n fuddugol, 28-33.

.
Cymru
Ceisiau:
Rhys Webb 3’, Alex Cuthbert 25’, Alun Wyn Jones 40’, Cais Cosb 65’
Trosiadau: Leigh Halfpenny 5’, 26’, Dan Biggar 40’, Rhys Priestland 66’
.
Awstralia
Ceisiau:
Israel Folau 15’, 21’, Tevita Kuridrani 29’
Trosiadau: Bernard Foley 16’, 22’, 30’
Cic Gosb: Bernard Foley 44’, 57’, 79’
Gôl Adlam: Bernard Foley 74’