Newcastle 21–22 Gleision Caerdydd
Y Gleision oedd yr unig ranbarth o Gymru i ennill yn y Cwpan LV nos Wener wrth iddynt ddod yn ôl i guro Newcastle ar Barc Kingston.
Roedd y tîm cartref 21-7 ar y blaen ar yr egwyl, ond tarodd y Gleision yn ôl gyda ceisiau Ellis Jenkins a Rory Watts-Jones yn gynnar yn yr ail gyfnod.
Rhoddodd cais Adam Powell fantais gynnar i Newcastle cyn i Harry Davies daro nôl i’r Gleision wedi deg munud.
Yna, croesodd Ruki Tipuna a Tim Vickers am ddau gais arall wrth i’r Saeson sefydlu pedwar pwynt ar ddeg o fantais erbyn yr egwyl.
Anfonwyd Tipuna i’r gell gosb ar ddechrau’r ail hanner ac fe fanteisiodd y Gleision yn llawn ar y fantais rifyddol gan groesi am ddau gais cyn iddo ddychwelyd i’r cae.
Trosodd Simon Humberstone gais Jenkins ond methodd a throsi un Watts-Jones felly roedd gan Newcastle ddau bwynt o fantais gyda hanner awr ar ôl.
Daeth cyfle arall i Humberstone toc cyn yr awr, llwyddodd y maswr gyda’r gic gosb y tro hwn ac roedd hynny’n ddigon i ennill y gêm i’r Gleision.
Gwrthwynebwyr nesaf y Gleision fydd y Scarlets ar Barc yr Arfau nos Wener nesaf.
.
Newcastle
Ceisiau: Adam Powell 6’, Ruki Tipuna 15’, Tim Vickers 28’
Trosiadau: Juan Pablo Socino 6’, 15’, 28’
Cerdyn Melyn: A Ruki Tipuna 42’
.
Gleision
Ceisiau: Harry Davies 11’, Ellis Jenkins 43’, Rory Watts-Jones 49’
Trosiadau: Simon Humberstone 12’, 43’
Cic Gosb: Simon Humberstone 57’
Cerdyn Melyn: Rory Watts-Jones 24’