Harlequins 31–21 Dreigiau Casnewydd Gwent
Ildiodd y Dreigiau fantais dda cyn colli yn erbyn Harlequins ar y Stoop yn y Cwpan LV nos Wener.
Roedd y Cymry ar y blaen 8-21 ar hanner amser ond roedd Harlequins yn well wedi’r egwyl a daeth y tîm cartref yn ôl i ennill y gêm.
Croesodd y ddau dîm am gais yn yr wyth munud cyntaf, yr asgellwr, Ollie Lindsey-Haugue, i’r Saracens a maswr y Dreigiau, Jonathan Evans.
Ychwanegodd James Thomas ail gais i’r ymwelwyr hanner ffordd trwy’r hanner cyntaf ac roedd gan y Cymry fantais dda erbyn hanner amser wedi tair cic gosb lwyddiannus y maswr, Dorian Thomas, yn y saith munud olaf.
Ond yn ôl y daeth y Saeson yn yr ail hanner, ac roedd dau gais yr wythwr, James Chisholm, ynghyd â deg pwynt o droed Tim Swiel yn ddigon i ennill y gêm iddynt.
Mae’r Dreigiau yn teithio i herio’r Gweilch nos Wener nesaf yn eu hail gêm yn y Cwpan LV.
.
Harlequins
Ceisiau: Ollie Lindsey-Haugue 7’, James Chisholm 51’ 74’
Trosiadau: Tim Swiel 51’, 74’
Ciciau Cosb: Tim Swiel 23’, 44’, 54’, 59’
.
Dreigiau
Ceisiau: Jonathan Evans 8’, James Thomas 21’
Trosiad: Dorian Jones 21’
Ciciau Cosb: Dorian Jones 33’, 35’, 40’
Cerdyn Melyn: Elliot Dee 49’