Gweilch 9–21 Saracens

Colli fu hanes y Gweilch yn y Cwpan LV wrth i’r Saracens ymweld â’r Gnoll nos Wener.

Llwyddodd Sam Davies gyda thair cic gosb i’r tîm cartref ond roedd maswr yr ymwelwyr, Ben Spencer, ar dân i’r ymwelwyr gan gicio pob un o’u un pwynt ar hugain hwy.

Cyfartal oedd hi hanner ffordd trwy’r hanner cyntaf yn dilyn dwy gic lwyddiannus yr un, ond roedd y Saracens chwe phwynt ar y blaen erbyn hanner amser.

Ychwanegodd Davies un arall wedi’r egwyl ond ymestynnodd Spencer fantais yr ymwelwyr gyda thair cic arall yn ugain munud olaf, 9-21 y sgôr terfynol.

Y Dreigiau yw gwrthwynebwyr nesaf y Gweilch yn y gystadleuaeth, nos Wener nesaf.
.
Gweilch
Ciciau Cosb:
Sam Davies 13’, 22’, 55’
.
Saracens
Ciciau Cosb:
Ben Spencer 6’, 11’, 30’, 34’, 57’, 60’ 79’
Cerdyn Melyn: George Perkins 20’