Alex Salmond - chwilio am her newydd?
Mae disgwyl y bydd Alex Salmond yn targedu etholaeth Prif Ysgrifennydd y Trysorlys, Danny Alexander, yn yr etholiad cyffredinol y flwyddyn nesaf.
Mae’n debygol y bydd yn cyhoeddi’n ffurfio ei fwriad i sefyll am sedd yn San Steffan ar ôl i Nicola Sturgeon gymryd ei le fel Prif Weinidog yr Alban yr wythnos nesaf.
Yn ôl ffynonellau o fewn yr SNP, mae Alex Salmond yn awyddus i sefyll mewn sedd lle gallai ddisodli un o ffigurau amlwg San Steffan.
Roedd gan y Democrat Rhyddfrydol Danny Alexander fwyafrif o 8,765 yn etholaeth Inverness, Nairn, Badenoch a Srathspey yn 2010, ond gyda chwymp sylweddol yn debygol ym mhleidlais y Democratiaid Rhyddfrydol, y gred yw y byddai gan Alex Salmond obaith da o’i guro.
“Mae ar Alex eisiau scalp ac mae ganddo’r dewis o unrhyw sedd,” meddai un ffynhonnell o’r SNP.
Roedd eisoes wedi awgrymu ar raglen Question Time y BBC ei fod yn ystyried sefyll yn etholiad San Steffan.