Y Prif Weinidog David Cameron a’i wraig Samantha yn ymweld â’r arddangosfa yn Nhŵr Llundain y bore yma. (Llun: Stefan Rousseau/Gwifren PA)
Mae miloedd o bobl wedi bod yn heidio i weld gwaith celf cerameg enfawr yn Nhŵr Llundain i nodi canmlwyddiant cychwyn y Rhyfel Mawr.
Dros y flwyddyn, mae 888,246 pabi coch wedi cael eu gosod yn y ffosydd o amgylch muriau’r Tŵr, gyda phob un yn cynrychioli milwr o un o wledydd Prydain neu’r Gymanwlad a gafodd eu llofruddio yn y gyflafan.
Mae’r arddangosfa, sy’n dwyn yr enw ‘Blood Swept Lands and Seas of Red’ wedi profi i fod mor boblogaidd, fel y bydd rhan ohoni’n aros yn agored tan ddiwedd y mis, ac yn mynd ar daith o wahanol safleoedd ym Mhrydain wedi hynny.
“Mae’r arddangosfa pabi wedi cydio o ddifrif yn nychymyg y cyhoedd, ac wedi bod yn syniad gwych,” meddai’r Prif Weinidog David Cameron wrth ymweld â’r arddangosfa y bore yma.
“Trwy fynd â rhan o’r arddangosfa ar daith o amgylch y wlad, a’i chadw’n barhaol wedyn yn yr Imperial War Museum, byddwn yn sicrhau y bydd yn cael ei gweld gan lawer mwy o bobl.”
Fe fydd gweddill y blodau cerameg yn cael eu codi’r wythnos nesaf ac yn cael eu hanfon i bobl sydd wedi talu £25 yr un amdanynt i godi arian at elusennau cyn-filwyr.