Mae dyn 25 oed o Ogledd Iwerddon wedi cael ei gadw yn y ddalfa ar gyhuddiad o fynd i wersyll hyfforddi trin arfau a ffrwydron yn Syria.

Mae Eamon Bradley, o ardal Creggan o ddinas Derry, wedi cael ei gyhuddo hefyd o fod â grenêd yn ei feddiant pan oedd yn y wlad.

Cafodd Bradley ei arestio yn Derry ddydd Iau.

Honnir iddo gyflawni’r troseddau yn Syria rhwng mis Ebrill a mis Hydref eleni.

Cafodd ei gais am fechnïaeth ei wrthod gan farnwr yn llys ynadon Derry.