Mikail Gorbachev
Dywed cyn-arweinydd yr Undeb Sofietaidd, Mikail Gorbachev, ei fod yn pryderu bod tensiynau rhwng y pwerau mawr yn rhoi’r byd ar drothwy rhyfel oer newydd.

Mae’n cyhuddo’r Gorllewin, yn enwedig yr Unol Daleithiau, ymddwyn yn rhy fuddugoliaethus ar ôl cwymp y bloc comiwnyddol chwarter canrif yn ôl.

Roedd Gorbachev yn siarad mewn digwyddiad gerllaw Porth Brandenburg yn Berlin heddiw i nodi 25 mlwyddiant cwymp mur Berlin yn 1989.

Galwodd am feithrin gwell ymddiriedaeth trwy fwy o ddeialog rhwng y Gorllewin a Rwsia, a rhybuddiodd y byddai methu â sicrhau diogelwch yn Ewrop yn gwneud y cyfandir yn amherthnasol ym materion y byd.