Elfyn Llwyd, arweinydd seneddol Plaid Cymru
I nodi Sul y Cofio, mae Plaid Cymru wedi cyhoeddi papur sy’n galw am well gofal a darpariaeth i gyn-filwyr.
Mae’r papur yn cynnwys argymhellion ar iechyd meddwl, ail-setlo, lles ac am lysoedd arbennig ar gyfer cyn-filwyr sy’n troseddu.
Dywedodd Elfyn Llwyd AS, Arweinydd Seneddol Plaid Cymru, a fydd yn cynrychioli’r blaid yn y Cenotaph yfory, fod y papur yn cynnwys amrywiaeth o bolisiau ymarferol i sicrhau fod cyn-filwyr yn cael eu trin â pharch ar ôl dychwelyd o ryfel.
“Mae amcangyfrifon yn dangos fod tua 5 miliwn o gyn-filwyr yn y DG – 250,000 ohonynt yng Nghymru,” meddai.
“Rydym yn gwario arian a threulio amser sylweddol yn hyfforddi pobl ifanc ar gyfer rhyfel; does bosib ei bod hi ond yn iawn felly i adlewyrchu hyn mewn ymdrechion i gefnogi cyn-filwyr i addasu i fywyd fel dinasyddion cyffredin ar ôl dychwelyd.
“Yn y flwyddyn pan fo’r byd yn cofio canmlwyddiant dechrau’r Rhyfel Byd Cyntaf, cred Plaid Cymru fod hwn yn amser da i ategu ein galwadau am well gofal i’n cyn-filwyr. Dw i’n sicr mai’r ffordd orau i dalu teyrnged i arwyr y gorffennol yw gofalu’n iawn am filwyr heddiw.
“Yn rhy aml, caiff cyn-filwyr eu siomi gan y rhai sydd wedi eu hanfon i beryglu eu bywydau mewn brwydr. Mae llawer o waith i’w wneud er mwyn cyrraedd y pwynt lle maent yn cael eu trin gyda pharch haeddiannol ond ein gobaith ni ym Mhlaid Cymru yw fod y papur hwn yn gam yn y cyfeiriad cywir.”